18 Am hynny ewch yn awr, gweithiwch; ac ni roddir gwellt i chwi; eto chwi a roddwch yr un cyfrif o'r priddfeini.
19 A swyddogion meibion Israel a'u gwelent eu hun mewn lle drwg, pan ddywedid, Na leihewch ddim o'ch priddfeini, dogn dydd yn ei ddydd.
20 A chyfarfuant â Moses ac Aaron, yn sefyll ar eu ffordd, pan oeddynt yn dyfod allan oddi wrth Pharo:
21 A dywedasant wrthynt, Edryched yr Arglwydd arnoch chwi, a barned; am i chwi beri i'n sawyr ni ddrewi gerbron Pharo, a cherbron ei weision, gan roddi cleddyf yn eu llaw hwynt i'n lladd ni.
22 A dychwelodd Moses at yr Arglwydd, ac a ddywedodd, O Arglwydd, paham y drygaist y bobl hyn? i ba beth y'm hanfonaist?
23 Canys er pan ddeuthum at Pharo, i lefaru yn dy enw di, efe a ddrygodd y bobl hyn; a chan waredu ni waredaist dy bobl.