3 A dywedasant hwythau, Duw yr Hebreaid a gyfarfu â ni: gad i ni fyned, atolwg, daith tridiau yn yr anialwch, ac aberthu i'r Arglwydd ein Duw; rhag iddo ein rhuthro â haint, neu â chleddyf.
4 A dywedodd brenin yr Aifft wrthynt, Moses ac Aaron, paham y perwch i'r bobl beidio â'u gwaith? ewch at eich beichiau.
5 Pharo hefyd a ddywedodd, Wele, pobl y wlad yn awr ydynt lawer, a pharasoch iddynt beidio â'u llwythau.
6 A gorchmynnodd Pharo, y dydd hwnnw, i'r rhai oedd feistriaid gwaith ar y bobl, a'u swyddogion, gan ddywedyd,
7 Na roddwch mwyach wellt i'r bobl i wneuthur priddfeini, megis o'r blaen; elont a chasglant wellt iddynt eu hunain.
8 A rhifedi'r priddfeini y rhai yr oeddynt hwy yn ei wneuthur o'r blaen a roddwch arnynt; na leihewch o hynny: canys segur ydynt; am hynny y maent yn gweiddi, gan ddywedyd, Gad i ni fyned ac aberthu i'n Duw.
9 Trymhaer y gwaith ar y gwŷr, a gweithiant ynddo; fel nad edrychant am eiriau ofer.