9 Trymhaer y gwaith ar y gwŷr, a gweithiant ynddo; fel nad edrychant am eiriau ofer.
10 A meistriaid gwaith y bobl, a'u swyddogion, a aethant allan, ac a lefarasant wrth y bobl, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed Pharo, Ni roddaf wellt i chwi.
11 Ewch chwi, a cheisiwch i chwi wellt lle y caffoch; er hynny ni leiheir dim o'ch gwaith.
12 A'r bobl a ymwasgarodd trwy holl wlad yr Aifft, i gasglu sofl yn lle gwellt.
13 A'r meistriaid gwaith oedd yn eu prysuro, gan ddywedyd, Gorffennwch eich gwaith, dogn dydd yn ei ddydd, megis pan oedd gwellt.
14 A churwyd swyddogion meibion Israel, y rhai a osodasai meistriaid gwaith Pharo arnynt hwy; a dywedwyd, Paham na orffenasoch eich tasg, ar wneuthur priddfeini, ddoe a heddiw, megis cyn hynny?
15 Yna swyddogion meibion Israel a ddaethant ac a lefasant ar Pharo, gan ddywedyd, Paham y gwnei fel hyn â'th weision?