1 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Dos at Pharo, a dywed wrtho, Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Gollwng ymaith fy mhobl, fel y'm gwasanaethont.
2 Ac os gwrthodi eu gollwng, wele, mi a drawaf dy holl derfynau di â llyffaint.
3 A'r afon a heigia lyffaint, y rhai a ddringant, ac a ddeuant i'th dŷ, ac i ystafell dy orweddle, ac ar dy wely, ac i dŷ dy weision, ac ar dy bobl, ac i'th ffyrnau, ac ar dy fwyd gweddill.
4 A'r llyffaint a ddringant arnat ti, ac ar dy bobl, ac ar dy holl weision.