11 A'r llyffaint a ymadawant â thi, ac â'th dai, ac â'th weision, ac â'th bobl; yn unig yn yr afon y gadewir hwynt.
12 A Moses ac Aaron a aethant allan oddi wrth Pharo. A Moses a lefodd ar yr Arglwydd, o achos y llyffaint y rhai a ddygasai efe ar Pharo.
13 A'r Arglwydd a wnaeth yn ôl gair Moses; a'r llyffaint a fuant feirw o'r tai, o'r pentrefydd, ac o'r meysydd.
14 A chasglasant hwynt yn bentyrrau; fel y drewodd y wlad.
15 Pan welodd Pharo fod seibiant iddo, efe a galedodd ei galon, ac ni wrandawodd arnynt; megis y llefarasai yr Arglwydd.
16 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Dywed wrth Aaron, Estyn dy wialen, a tharo lwch y ddaear, fel y byddo yn llau trwy holl wlad yr Aifft.
17 Ac felly y gwnaethant: canys Aaron a estynnodd ei law â'i wialen, ac a drawodd lwch y ddaear; ac efe a aeth yn llau ar ddyn ac ar anifail: holl lwch y tir oedd yn llau trwy holl wlad yr Aifft.