18 A'r swynwyr a wnaethant felly, trwy eu swynion, i ddwyn llau allan; ond ni allasant: felly y bu'r llau ar ddyn ac ar anifail.
19 Yna y swynwyr a ddywedasant wrth Pharo, Bys Duw yw hyn: a chaledwyd calon Pharo, ac ni wrandawai arnynt; megis y llefarasai yr Arglwydd.
20 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Cyfod yn fore, a saf gerbron Pharo; wele, efe a ddaw allan i'r dwfr: yna dywed wrtho, Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd; Gollwng ymaith fy mhobl, fel y'm gwasanaethont.
21 Oherwydd, os ti ni ollyngi fy mhobl, wele fi yn gollwng arnat ti, ac ar dy weision, ac ar dy bobl, ac i'th dai, gymysgbla: a thai'r Eifftiaid a lenwir o'r gymysgbla, a'r ddaear hefyd yr hon y maent arni.
22 A'r dydd hwnnw y neilltuaf fi wlad Gosen, yr hon y mae fy mhobl yn aros ynddi, fel na byddo'r gymysgbla yno; fel y gwypech mai myfi yw yr Arglwydd yng nghanol y ddaear.
23 A mi a osodaf wahan rhwng fy mhobl i a'th bobl di: yfory y bydd yr arwydd hwn.
24 A'r Arglwydd a wnaeth felly; a daeth cymysgbla drom i dŷ Pharo, ac i dai ei weision, ac i holl wlad yr Aifft; a llygrwyd y wlad gan y gymysgbla.