2 Ac os gwrthodi eu gollwng, wele, mi a drawaf dy holl derfynau di â llyffaint.
3 A'r afon a heigia lyffaint, y rhai a ddringant, ac a ddeuant i'th dŷ, ac i ystafell dy orweddle, ac ar dy wely, ac i dŷ dy weision, ac ar dy bobl, ac i'th ffyrnau, ac ar dy fwyd gweddill.
4 A'r llyffaint a ddringant arnat ti, ac ar dy bobl, ac ar dy holl weision.
5 Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses, Dywed wrth Aaron, Estyn dy law â'th wialen ar y ffrydiau, ar yr afonydd, ac ar y llynnoedd; a gwna i lyffaint ddyfod i fyny ar hyd tir yr Aifft.
6 Ac Aaron a estynnodd ei law ar ddyfroedd yr Aifft; a'r llyffaint a ddaethant i fyny, ac a orchuddiasant dir yr Aifft.
7 A'r swynwyr a wnaethant yr un modd, trwy eu swynion; ac a ddygasant i fyny lyffaint ar wlad yr Aifft.
8 Yna Pharo a alwodd am Moses ac Aaron, ac a ddywedodd, Gweddïwch ar yr Arglwydd, ar iddo dynnu'r llyffaint ymaith oddi wrthyf fi, ac oddi wrth fy mhobl; a mi a ollyngaf ymaith y bobl, fel yr aberthont i'r Arglwydd.