22 A'r dydd hwnnw y neilltuaf fi wlad Gosen, yr hon y mae fy mhobl yn aros ynddi, fel na byddo'r gymysgbla yno; fel y gwypech mai myfi yw yr Arglwydd yng nghanol y ddaear.
23 A mi a osodaf wahan rhwng fy mhobl i a'th bobl di: yfory y bydd yr arwydd hwn.
24 A'r Arglwydd a wnaeth felly; a daeth cymysgbla drom i dŷ Pharo, ac i dai ei weision, ac i holl wlad yr Aifft; a llygrwyd y wlad gan y gymysgbla.
25 A Pharo a alwodd am Moses ac Aaron, ac a ddywedodd, Ewch, aberthwch i'ch Duw yn y wlad.
26 A dywedodd Moses, Nid cymwys gwneuthur felly; oblegid nyni a aberthwn i'r Arglwydd ein Duw ffieiddbeth yr Eifftiaid: wele, os aberthwn ffieiddbeth yr Eifftiaid yng ngŵydd eu llygaid hwynt, oni labyddiant hwy ni?
27 Taith tridiau yr awn i'r anialwch, a nyni a aberthwn i'r Arglwydd ein Duw, megis y dywedo efe wrthym ni.
28 A dywedodd Pharo, Mi a'ch gollyngaf chwi, fel yr aberthoch i'r Arglwydd eich Duw yn yr anialwch; ond nac ewch ymhell: gweddïwch trosof fi.