1 Yna y dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Dos i mewn at Pharo, a llefara wrtho ef, Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw yr Hebreaid; Gollwng ymaith fy mhobl, fel y'm gwasanaethont.
2 Oblegid, os gwrthodi eu gollwng hwynt ymaith, ac atal ohonot hwynt eto,
3 Wele, llaw yr Arglwydd fydd ar dy anifeiliaid, y rhai sydd yn y maes; ar feirch, ar asynnod, ar gamelod, ar y gwartheg, ac ar y defaid, y daw haint trwm iawn.
4 A'r Arglwydd a neilltua rhwng anifeiliaid Israel ac anifeiliaid yr Eifftiaid; fel na byddo marw dim o gwbl a'r sydd eiddo meibion Israel.
5 A gosododd yr Arglwydd amser nodedig, gan ddywedyd, Yfory y gwna'r Arglwydd y peth hyn yn y wlad.
6 A'r Arglwydd a wnaeth y peth hynny drannoeth: a bu feirw holl anifeiliad yr Eifftiaid; ond o anifeiliaid meibion Israel ni bu farw un.