11 A'r swynwyr ni allent sefyll gerbron Moses, gan y cornwyd; oblegid yr oedd y cornwyd ar y swynwyr, ac ar yr holl Eifftiaid.
12 A'r Arglwydd a galedodd galon Pharo, fel na wrandawai arnynt; megis y llefarasai'r Arglwydd wrth Moses.
13 A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Cyfod yn fore, a saf gerbron Pharo, a dywed wrtho, Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw yr Hebreaid; Gollwng fy mhobl, fel y'm gwasanaethont.
14 Canys y waith hon yr anfonaf fy holl blâu ar dy galon, ac ar dy weision, ac ar dy bobl; fel y gwypech nad oes gyffelyb i mi yn yr holl ddaear.
15 Oherwydd yn awr, mi a estynnaf fy llaw, ac a'th drawaf di a'th bobl â haint y nodau; a thi a dorrir ymaith oddi ar y ddaear.
16 Ac yn ddiau er mwyn hyn y'th gyfodais di, i ddangos i ti fy nerth; ac fel y myneger fy enw trwy'r holl ddaear.
17 A wyt ti yn ymddyrchafu ar fy mhobl eto, heb eu gollwng hwynt ymaith?