17 A wyt ti yn ymddyrchafu ar fy mhobl eto, heb eu gollwng hwynt ymaith?
18 Wele, mi a lawiaf ynghylch yr amser yma yfory genllysg trymion iawn; y rhai ni bu eu bath yn yr Aifft, o'r dydd y sylfaenwyd hi, hyd yr awr hon.
19 Anfon gan hynny yn awr, casgl dy anifeiliaid, a phob dim a'r y sydd i ti yn y maes: pob dyn ac anifail a gaffer yn y maes, ac nis dyger i dŷ, y disgyn y cenllysg arnynt, a byddant feirw.
20 Yr hwn a ofnodd air yr Arglwydd o weision Pharo, a yrrodd ei weision a'i anifeiliaid i dai;
21 A'r hwn nid ystyriodd air yr Arglwydd, a adawodd ei weision a'i anifeiliaid yn y maes.
22 A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Estyn dy law tua'r nefoedd; fel y byddo cenllysg yn holl wlad yr Aifft, ar ddyn ac ar anifail, ac ar holl lysiau y maes, o fewn tir yr Aifft.
23 A Moses a estynnodd ei wialen tua'r nefoedd: a'r Arglwydd a roddodd daranau a chenllysg, a'r tân a gerddodd ar hyd y ddaear; a chafododd yr Arglwydd genllysg ar dir yr Aifft.