24 Felly yr ydoedd cenllysg, a thân yn ymgymryd yng nghanol y cenllysg, yn flin iawn; yr hwn ni bu ei fath yn holl wlad yr Aifft, er pan ydoedd yn genhedlaeth.
25 A'r cenllysg a gurodd, trwy holl wlad yr Aifft, gwbl a'r oedd yn y maes, yn ddyn ac yn anifail: y cenllysg hefyd a gurodd holl lysiau y maes, ac a ddrylliodd holl goed y maes.
26 Yn unig yng ngwlad Gosen, yr hon yr ydoedd meibion Israel ynddi, nid oedd dim cenllysg.
27 A Pharo a anfonodd, ac a alwodd ar Moses ac Aaron, ac a ddywedodd wrthynt, Pechais y waith hon; yr Arglwydd sydd gyfiawn, a minnau a'm pobl yn annuwiol.
28 Gweddïwch ar yr Arglwydd (canys digon yw hyn) na byddo taranau Duw na chenllysg; a mi a'ch gollyngaf, ac ni arhoswch yn hwy.
29 A dywedodd Moses wrtho, Pan elwyf allan o'r ddinas mi a ledaf fy nwylo at yr Arglwydd: a'r taranau a beidiant, a'r cenllysg ni bydd mwy; fel y gwypych mai yr Arglwydd biau y ddaear.
30 Ond mi a wn nad wyt ti eto, na'th weision, yn ofni wyneb yr Arglwydd Dduw.