28 Gweddïwch ar yr Arglwydd (canys digon yw hyn) na byddo taranau Duw na chenllysg; a mi a'ch gollyngaf, ac ni arhoswch yn hwy.
29 A dywedodd Moses wrtho, Pan elwyf allan o'r ddinas mi a ledaf fy nwylo at yr Arglwydd: a'r taranau a beidiant, a'r cenllysg ni bydd mwy; fel y gwypych mai yr Arglwydd biau y ddaear.
30 Ond mi a wn nad wyt ti eto, na'th weision, yn ofni wyneb yr Arglwydd Dduw.
31 A'r llin a'r haidd a gurwyd; canys yr haidd oedd wedi hedeg, a'r llin wedi hadu:
32 A'r gwenith a'r rhyg ni churwyd; oherwydd diweddar oeddynt hwy.
33 A Moses a aeth oddi wrth Pharo allan o'r ddinas, ac a ledodd ei ddwylo at yr Arglwydd; a'r taranau a'r cenllysg a beidiasant, ac ni thywalltwyd glaw ar y ddaear.
34 A phan welodd Pharo beidio o'r glaw, a'r cenllysg, a'r taranau, efe a chwanegodd bechu; ac a galedodd ei galon, efe a'i weision.