4 A'r Arglwydd a neilltua rhwng anifeiliaid Israel ac anifeiliaid yr Eifftiaid; fel na byddo marw dim o gwbl a'r sydd eiddo meibion Israel.
5 A gosododd yr Arglwydd amser nodedig, gan ddywedyd, Yfory y gwna'r Arglwydd y peth hyn yn y wlad.
6 A'r Arglwydd a wnaeth y peth hynny drannoeth: a bu feirw holl anifeiliad yr Eifftiaid; ond o anifeiliaid meibion Israel ni bu farw un.
7 A Pharo a anfonodd; ac wele, ni buasai farw un o anifeiliaid Israel: a chalon Pharo a galedwyd, ac ni ollyngodd y bobl.
8 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses ac wrth Aaron, Cymerwch i chwi lonaid eich llaw o ludw ffwrn, a thaened Moses ef tua'r nefoedd yng ngŵydd Pharo:
9 Ac efe fydd yn llwch ar holl dir yr Aifft; ac a fydd ar ddyn ac ar anifail yn gornwyd llinorog, trwy holl wlad yr Aifft.
10 A hwy a gymerasant ludw y ffwrn, ac a safasant gerbron Pharo: a Moses a'i taenodd tua'r nefoedd; ac efe a aeth yn gornwyd llinorog ar ddyn ac ar anifail.