1 Ar y dechrau cyntaf, dyma Duw yn creu y bydysawd a'r ddaear.
2 Roedd y ddaear yn anhrefn gwag, ac roedd hi'n hollol dywyll dros y dŵr dwfn. Ond roedd Ysbryd Duw yn hofran dros wyneb y dŵr.
3 A dwedodd Duw, “Dw i eisiau golau!” a daeth golau i fod.
4 Roedd Duw yn gweld bod hyn yn dda, a dyma Duw yn gwahanu'r golau oddi wrth y tywyllwch.
5 Rhoddodd Duw yr enw "dydd" i'r golau a'r enw "nos" i'r tywyllwch, ac roedd nos a dydd ar y diwrnod cyntaf.