Genesis 4 BNET

Cain yn lladd Abel

1 Cysgodd Adda gyda'i wraig Efa, a dyma hi'n beichiogi. Cafodd blentyn, sef Cain, ac meddai, “Dw i wedi creu plentyn, gyda help yr ARGLWYDD.”

2 Wedyn cafodd blentyn arall, brawd i Cain, sef Abel.Tyfodd Abel i fod yn fugail, ond roedd Cain yn trin y tir.

3 Adeg y cynhaeaf daeth Cain â peth o gynnyrch y tir i'w roi yn offrwm i'r ARGLWYDD.

4 Daeth Abel â rhai o ŵyn cyntaf y praidd, a rhoi'r rhai gorau yn offrwm i Dduw. Roedd Abel a'i offrwm yn plesio'r ARGLWYDD,

5 ond wnaeth e ddim cymryd sylw o Cain a'i offrwm. Roedd Cain wedi gwylltio'n lân. Roedd i'w weld ar ei wyneb!

6 Dyma'r ARGLWYDD yn gofyn i Cain, “Ydy'n iawn dy fod ti wedi gwylltio fel yma? Pam wyt ti mor ddig?

7 Os gwnei di beth sy'n iawn bydd pethau'n gwella. Ond os na wnei di beth sy'n iawn, mae pechod fel anifail yn llechu wrth y drws. Mae am dy gael di, ond rhaid i ti ei reoli.”

8 Dwedodd Cain wrth ei frawd, “Gad i ni fynd allan i gefn gwlad.” Yna pan oedden nhw allan yng nghefn gwlad dyma Cain yn ymosod ar ei frawd Abel a'i ladd.

9 Wedyn dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Cain, “Ble mae Abel, dy frawd di?” Atebodd Cain, “Dw i ddim yn gwybod. Ai fi sydd i fod i ofalu am fy mrawd?”

10 A dyma'r ARGLWYDD yn dweud, “Beth yn y byd wyt ti wedi'i wneud? Gwranda! Mae gwaed dy frawd yn gweiddi arna i o'r pridd.

11 Melltith arnat ti. Rhaid i ti adael y tir yma lyncodd waed dy frawd pan wnest ti ei ladd.

12 Byddi'n ceisio trin y tir ond yn methu cael cnwd da ohono. Byddi'n crwydro o gwmpas yn ddigyfeiriad.”

13 Ac meddai Cain wrth yr ARGLWYDD, “Mae'r gosb yn ormod i mi ei chymryd!

14 Rwyt ti wedi fy ngyrru i ffwrdd o'r tir, a bydda i wedi fy nhorri i ffwrdd oddi wrthot ti. Bydda i'n crwydro o gwmpas yn ddigyfeiriad, a bydd pwy bynnag sy'n dod o hyd i mi yn fy lladd i.”

15 Ond dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Na. Bydd pwy bynnag sy'n lladd Cain yn cael ei gosbi saith gwaith drosodd.” A dyma'r ARGLWYDD yn marcio Cain i ddangos iddo na fyddai'n cael ei ladd gan bwy bynnag fyddai'n dod o hyd iddo.

16 Felly aeth Cain i ffwrdd oddi wrth yr ARGLWYDD a mynd i fyw i wlad Nod i'r dwyrain o Eden.

Disgynyddion Cain

17 Cysgodd Cain gyda'i wraig, a dyma hi'n beichiogi. Cafodd blentyn, sef Enoch. Roedd Cain yn adeiladu pentref gyda wal i'w amddiffyn, a galwodd y pentref yn ‛Enoch‛ ar ôl ei fab.

18 Roedd Enoch yn dad i Irad, Irad yn dad i Mechwia-el, Mechwia-el yn dad i Methwsha-el, a Methwsha-el yn dad i Lamech.

19 Dyma Lamech yn cymryd dwy wraig – Ada oedd enw un a Sila oedd y llall.

20 Cafodd Ada blentyn, sef Iabal. Iabal oedd y cyntaf i fyw mewn pebyll a chadw anifeiliaid.

21 Roedd ganddo frawd o'r enw Iwbal. Iwbal oedd y cyntaf i ganu'r delyn a'r ffliwt.

22 Dyma Sila, y wraig arall, yn cael plentyn hefyd, sef Twbal-cain. Fe oedd y cyntaf i weithio gyda metelau, a gwneud offer pres a haearn. Roedd gan Twbal-cain chwaer o'r enw Naäma.

23 Dyma Lamech yn dweud wrth ei wragedd:“Ada a Sila, gwrandwch arna i!Wragedd Lamech, sylwch beth dw i'n ddweud:Byddwn i'n lladd dyn am fy anafu i,neu blentyn am fy nharo i.

24 Os bydd y dial am Cain saith gwaith gwaeth,bydd y dial am Lamech saith deg saith gwaith!”

25 Dyma Adda'n cysgu gyda'i wraig eto, a dyma hi'n cael mab arall. Galwodd hwn yn Seth, “am fod Duw wedi rhoi plentyn i mi yn lle Abel, ar ôl i Cain ei ladd.”

26 Cafodd Seth fab, a'i alw yn Enosh. Dyma pryd y dechreuodd pobl addoli'r ARGLWYDD.