Genesis 2 BNET

Duw yn gorffwys ar y seithfed diwrnod

1 Felly gorffennodd Duw y gwaith o greu y bydysawd a phopeth sydd ynddo.

2 Ar y seithfed diwrnod dyma Duw yn gorffwys, am ei fod wedi gorffen ei holl waith.

3 Bendithiodd Duw y seithfed diwrnod a'i wneud yn ddiwrnod arbennig, am mai dyna'r diwrnod roedd e wedi gorffwys ar ôl gorffen y gwaith o greu.

Gardd Eden

4 Dyma hanes y bydysawd yn cael ei greu:Pan wnaeth Duw y bydysawd,

5 doedd dim planhigion gwyllt na llysiau yn tyfu ar y tir. Doedd Duw ddim eto wedi gwneud iddi lawio, a doedd neb chwaith i weithio ar y tir.

6 Ond roedd dŵr yn codi o'r ddaear ac yn dyfrio wyneb y tir.

7 Dyma'r ARGLWYDD Dduw yn siapio dyn o'r pridd. Wedyn chwythodd i'w ffroenau yr anadl sy'n rhoi bywyd, a daeth y dyn yn berson byw.

8 Yna dyma'r ARGLWYDD Dduw yn plannu gardd tua'r dwyrain, yn Eden, a rhoi'r dyn roedd wedi ei siapio yno.

9 Wedyn gwnaeth yr ARGLWYDD Dduw i goed o bob math dyfu o'r tir – coed hardd gyda ffrwythau arnyn nhw oedd yn dda i'w bwyta. (Yng nghanol yr ardd roedd y goeden sy'n rhoi bywyd a'r goeden sy'n rhoi gwybodaeth am bopeth – da a drwg.)

10 Roedd afon yn tarddu yn Eden ac yn dyfrio'r ardd. Wedyn roedd yn rhannu'n bedair cangen.

11 Pison ydy enw un. Mae hi'n llifo o gwmpas gwlad Hafila, lle mae aur.

12 (Mae'r aur sydd yno yn bur iawn. Mae perlau ac onics yno hefyd.)

13 Gihon ydy enw'r ail afon. Mae hi yn llifo o gwmpas gwlad Cwsh.

14 Tigris ydy enw'r drydedd afon. Mae hi'n llifo i'r dwyrain o ddinas Ashŵr. Ac Ewffrates ydy enw'r bedwaredd afon.

15 Dyma'r ARGLWYDD Dduw yn cymryd y dyn a'i osod yn yr ardd yn Eden, i'w thrin hi a gofalu amdani.

16 A dyma fe'n rhoi gorchymyn i'r dyn: “Cei fwyta ffrwyth unrhyw goeden yn yr ardd,

17 ond paid bwyta ffrwyth y goeden sy'n rhoi gwybodaeth am bopeth – da a drwg. Pan wnei di hynny byddi'n siŵr o farw.”

18 Dwedodd yr ARGLWYDD Dduw wedyn, “Dydy e ddim yn beth da i'r dyn fod ar ei ben ei hun. Dw i'n mynd i wneud cymar iddo i'w gynnal.”

19 A dyma'r ARGLWYDD Dduw yn siapio pob math o anifeiliaid ac adar o'r pridd, ac yn gwneud iddyn nhw ddod at y dyn i weld beth fyddai'n eu galw nhw. Y dyn oedd yn rhoi enw i bob un ohonyn nhw.

20 Rhoddodd enwau i'r anifeiliaid, i'r adar, ac i'r bywyd gwyllt i gyd, ond doedd run ohonyn nhw yn gwneud cymar iddo i'w gynnal.

21 Felly dyma'r ARGLWYDD Dduw yn gwneud i'r dyn gysgu'n drwm. Cymerodd ddarn o ochr y dyn, a rhoi cnawd yn ei le.

22 Wedyn dyma'r ARGLWYDD Dduw yn ffurfio dynes allan o'r darn oedd wedi ei gymryd o'r dyn, a dod â hi at y dyn.

23 A dyma'r dyn yn dweud,“O'r diwedd! Un sydd yr un fath â fi!Asgwrn o'm hesgyrn, a chnawd o'm cnawd.‛Dynes‛ fydd yr enw arni,am ei bod wedi ei chymryd allan o ddyn.”

24 Dyna pam mae dyn yn gadael ei dad a'i fam ac yn cael ei uno â'i wraig. Maen nhw'n dod yn uned deuluol newydd.

25 Roedd y dyn a'i wraig yn hollol noeth, a doedd ganddyn nhw ddim cywilydd.