1 Felly dyma Abram yn gadael yr Aifft, gyda'i wraig a phopeth oedd ganddo a Lot. Aethon nhw yn ôl i'r Negef yn ne Canaan.
2 Roedd Abram yn gyfoethog iawn – roedd ganddo lawer iawn o anifeiliaid ac arian ac aur.
3 Teithiodd yn ei flaen bob yn dipyn drwy'r Negef ac i fyny i Bethel. Aeth yn ôl i'r man lle roedd wedi gwersylla gyntaf, rhwng Bethel ac Ai.
4 Dyna ble roedd wedi codi allor i'r ARGLWYDD, ac wedi addoli'r ARGLWYDD.
5 Roedd gan Lot, oedd yn teithio gydag Abram, ddefaid a gwartheg a phebyll hefyd.
6 Doedd dim digon o borfa a dŵr iddyn nhw fyw gyda'i gilydd, am fod gan y ddau gymaint o anifeiliaid.
7 Ac roedd gweision Abram a gweision Lot yn cweryla drwy'r adeg. (Y Canaaneaid a'r Peresiaid oedd yn byw yn y wlad bryd hynny.)
8 Felly dyma Abram yn dweud wrth Lot, “Da ti, gad i ni a'n gweision beidio ffraeo! Dŷn ni'n perthyn i'r un teulu!
9 Edrych, mae'r wlad i gyd o dy flaen di. Beth am i ni wahanu. Dewis di ble rwyt ti am fynd i fyw, a gwna i fynd i'r cyfeiriad arall.”
10 Edrychodd Lot o'i gwmpas, a gwelodd fod dyffryn Iorddonen i fyny at Soar yn dir da gyda digon o ddŵr. Roedd yn ffrwythlon fel gardd yr ARGLWYDD yn Eden, neu fel gwlad yr Aifft. (Roedd hyn cyn i'r ARGLWYDD ddinistrio trefi Sodom a Gomorra.)
11 Felly dyma Lot yn dewis dyffryn yr Iorddonen, a mynd i gyfeiriad y dwyrain. A dyma'r teulu'n gwahanu.
12 Setlodd Abram yng ngwlad Canaan, ac aeth Lot i fyw wrth y trefi yn y dyffryn, a gwersylla wrth ymyl Sodom.
13 Roedd pobl Sodom yn ddrwg iawn, ac yn pechu'n fawr yn erbyn yr ARGLWYDD.
14 Ar ôl i Lot ei adael, dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Abram, “Edrych o dy gwmpas i bob cyfeiriad.
15 Dw i'n mynd i roi'r wlad yma i gyd i ti a dy ddisgynyddion, am byth.
16 Bydd gen ti gymaint o ddisgynyddion fydd dim posib eu cyfri nhw. Byddan nhw fel llwch ar y ddaear!
17 Dos i deithio o gwmpas y wlad. Bydda i'n rhoi'r cwbl i ti.”
18 Felly dyma Abram yn mynd, ac yn setlo i lawr wrth goed derw Mamre, oedd yn fan addoli yn Hebron. A dyma fe'n codi allor i'r ARGLWYDD yno.