1 Gwnaeth yr ARGLWYDD yn union fel yr oedd wedi ei addo i Sara.
2 Dyma hi'n beichiogi, ac yn cael mab i Abraham pan oedd e'n hen ddyn, ar yr union adeg roedd Duw wedi'i ddweud.
3 Galwodd Abraham y mab gafodd Sara yn Isaac.
4 Pan oedd y babi yn wythnos oed dyma Abraham yn enwaedu ei fab Isaac, yn union fel roedd Duw wedi dweud wrtho.
5 (Roedd Abraham yn gan mlwydd oed pan gafodd Isaac ei eni.)
6 A dyma Sara'n dweud,“Mae Duw wedi gwneud i mi chwerthin yn llawen:a bydd pawb sy'n clywed am y peth yn chwerthin gyda mi.”
7 Ac meddai,“Fyddai neb erioed wedi dweud wrth Abraham,‘Bydd Sara yn magu plant’!Ond dyma fi, wedi rhoi mab iddo, ac yntau'n hen ddyn!”
8 Roedd y plentyn bach yn tyfu. Pan stopiodd gael ei fwydo ar y fron dyma Abraham yn trefnu parti i ddathlu.
9 Sylwodd Sara ar y mab gafodd Hagar yr Eifftes i Abraham yn gwneud hwyl am ben ei mab hi, Isaac
10 A dyma hi'n dweud wrth Abraham, “Dw i eisiau i ti gael gwared â'r gaethferch yna a'i mab. Fydd mab y gaethferch yna ddim yn cael rhan o etifeddiaeth fy mab i Isaac!”
11 Doedd Abraham ddim yn hapus o gwbl am y peth, achos roedd Ishmael hefyd yn fab iddo.
12 Ond dyma Duw yn dweud wrth Abraham, “Paid teimlo'n ddrwg am y bachgen a'i fam. Gwna bopeth mae Sara'n ei ddweud wrthyt. Drwy Isaac y bydd dy linach yn cael ei chadw.
13 Ond bydda i'n gwneud mab y gaethferch yn genedl hefyd, am mai dy blentyn di ydy e.”
14 Felly dyma Abraham yn codi'n gynnar. Rhoddodd fwyd a photel groen o ddŵr i Hagar ei gario ar ei chefn. Yna anfonodd hi i ffwrdd gyda'i mab, ac aeth i grwydro o gwmpas anialwch Beersheba.
15 Pan oedd dim dŵr ar ôl yn y botel, dyma hi'n gadael y bachgen dan gysgod un o'r llwyni.
16 Wedyn aeth i eistedd ar ei phen ei hun reit bell oddi wrtho (tua ergyd bwa i ffwrdd). “Alla i ddim edrych ar y bachgen yn marw,” meddyliodd. Eisteddodd i lawr gyferbyn ag e, a dechrau crïo'n uchel.
17 Ond clywodd Duw lais y bachgen. A dyma angel Duw yn galw ar Hagar o'r nefoedd, a gofyn iddi, “Beth sy'n bod, Hagar? Paid bod ag ofn. Mae Duw wedi clywed llais y bachgen.
18 Tyrd, cod y bachgen ar ei draed a'i ddal yn dynn. Dw i'n mynd i wneud cenedl fawr ohono.”
19 Yna dyma Duw yn gwneud iddi sylwi fod yna ffynnon yno. Dyma hi'n mynd i lenwi'r botel groen hefo dŵr, a rhoi peth i'r bachgen i'w yfed.
20 Roedd Duw yn gofalu am y bachgen wrth iddo dyfu. Roedd yn byw yn yr anialwch a daeth yn fwasaethwr gwych.
21 Roedd yn byw yn anialwch Paran. A dyma'i fam yn trefnu iddo briodi gwraig o wlad yr Aifft.
22 Tua'r adeg honno dyma Abimelech, a dyn o'r enw Pichol, pennaeth ei fyddin, yn cyfarfod gydag Abraham. “Mae'n amlwg fod Duw gyda ti bob amser,” meddai Abimelech.
23 “Dw i am i ti addo i mi o flaen Duw na fyddi di'n troi yn fy erbyn i na'm plant a'm pobl. Dw i wedi bod yn garedig atat ti, felly bydd di'n garedig ata i a phobl y wlad yma lle rwyt ti wedi setlo i fyw.”
24 “Dw i'n addo,” meddai Abraham.
25 Ond yna dyma Abraham yn gwneud cwyn am y ffynnon roedd gweision Abimelech wedi ei dwyn oddi arno.
26 “Dw i ddim yn gwybod pwy sydd wedi gwneud hyn,” meddai Abimelech. “Beth bynnag, wnest ti ddim dweud wrtho i. Dyma'r cyntaf i mi glywed am y peth.”
27 Yna dyma Abraham yn rhoi defaid ac ychen i Abimelech a dyma'r ddau yn gwneud cytundeb.
28 Ond roedd Abraham wedi rhoi saith oen banw ar un ochr.
29 A gofynnodd Abimelech iddo, “Beth ydy'r saith oen banw yma wyt ti wedi eu gosod ar wahân?”
30 “Dw i eisiau i ti gymryd y saith oen banw yma gen i fel tystiolaeth mai fi sydd wedi cloddio'r ffynnon yma,” meddai Abraham.
31 Dyna pam y galwodd y lle yn Beersheba, am fod y ddau ohonyn nhw wedi mynd ar eu llw yno.
32 Ar ôl gwneud y cytundeb yn Beersheba, dyma Abimelech a Pichol, pennaeth ei fyddin, yn mynd yn ôl adre i wlad y Philistiaid.
33 Plannodd Abraham goeden tamarisg yn Beersheba. Addolodd yr ARGLWYDD yno, sef y Duw sy'n byw am byth.
34 Arhosodd Abraham yng ngwlad y Philistiaid am amser hir.