Genesis 18 BNET

Duw yn addo mab i Abraham a Sara

1 Dyma'r ARGLWYDD yn ymddangos i Abraham wrth goed derw Mamre. Roedd yr haul yn boeth ganol dydd, ac roedd yn eistedd wrth y fynedfa i'w babell.

2 Gwelodd dri dyn yn sefyll gyferbyn ag e. Rhedodd draw atyn nhw ac ymgrymu yn isel o'u blaenau.

3 “Fy meistr,” meddai, “Plîs peidiwch â mynd. Ga i'r fraint o'ch gwahodd chi i aros yma am ychydig?

4 Cewch ddŵr i olchi eich traed, a chyfle i orffwys dan y goeden yma.

5 Af i nôl ychydig o fwyd i'ch cadw chi i fynd. Cewch fynd ymlaen ar eich taith wedyn. Mae'n fraint i mi eich bod wedi dod heibio cartre'ch gwas.” A dyma nhw'n ateb, “Iawn, gwna di hynny.”

6 Brysiodd Abraham i mewn i'r babell at Sara, a dweud, “Brysia, cymer sachaid o flawd mân i wneud bara”

7 Wedyn dyma Abraham yn rhuthro allan at y gwartheg, ac yn dewis llo ifanc. Rhoddodd y llo i'w was i'w baratoi ar frys.

8 Pan oedd y bwyd yn barod, cymerodd Abraham gaws colfran a llaeth a'r cig wedi ei rostio a'i osod o'u blaenau. A safodd wrth eu hymyl dan y goeden tra roedden nhw'n bwyta.

9 “Ble mae dy wraig, Sara?” medden nhw wrth Abraham. “Fan yna, yn y babell,” atebodd yntau.

10 A dyma un ohonyn nhw'n dweud, “Bydda i'n dod yn ôl yr adeg yma'r flwyddyn nesa, a bydd Sara yn cael mab.” Roedd Sara y tu ôl i ddrws y babell, yn gwrando ar hyn i gyd.

11 (Roedd Abraham a Sara mewn oed, ac roedd Sara yn rhy hen i gael plant.)

12 Pan glywodd hi beth ddywedwyd, roedd Sara'n chwerthin ynddi ei hun, ac yn meddwl, “Ydw i'n mynd i gael pleser felly? Dw i wedi hen ddarfod ac mae Abraham yn hen ddyn hefyd.”

13 A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Abraham, “Pam wnaeth Sara chwerthin, a dweud ‘Ydw i'n mynd i gael plentyn a minnau mor hen?’

14 Dw i, yr ARGLWYDD, yn gallu gwneud unrhyw beth. Bydda i'n dod yn ôl fel y dwedais i, yr adeg yma'r flwyddyn nesa, a bydd Sara'n cael mab.”

15 Roedd Sara wedi dychryn, a dyma hi'n ceisio gwadu'r peth, “Wnes i ddim chwerthin,” meddai hi. “Dydy hynny ddim yn wir,” meddai'r ARGLWYDD. “Roeddet ti yn chwerthin.”

Abraham yn pledio ar ran Sodom

16 Pan gododd y dynion i fynd, roedden nhw'n edrych allan i gyfeiriad Sodom. Roedd Abraham wedi cerdded gyda nhw beth o'r ffordd.

17 A dyma'r ARGLWYDD yn meddwl, “Ddylwn i guddio beth dw i'n mynd i'w wneud oddi wrth Abraham?

18 Mae cenedl fawr gref yn mynd i ddod o Abraham, a bydd gwledydd y byd i gyd yn cael eu bendithio trwyddo.

19 Na, dw i'n mynd i ddweud wrtho. Dw i eisiau iddo ddysgu ei blant a pawb sydd gydag e i fyw fel mae'r ARGLWYDD am iddyn nhw fyw, a gwneud beth sy'n iawn ac yn deg. Wedyn bydd yr ARGLWYDD yn dod â'r addewid wnaeth e i Abraham yn wir.”

20 Felly dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Abraham, “Mae pobl yn cwyno yn ofnadwy yn erbyn Sodom a Gomorra, eu bod nhw'n gwneud pethau drwg iawn!

21 Dw i am fynd i lawr i weld os ydy'r cwbl sy'n cael ei ddweud yn wir ai peidio. Bydda i'n gwybod wedyn.”

22 Aeth y dynion yn eu blaenau i gyfeiriad Sodom, tra roedd Abraham yn sefyll o flaen yr ARGLWYDD.

23 Yna dyma Abraham yn mynd yn nes ato a gofyn, “Fyddet ti ddim yn cael gwared â'r bobl dda gyda'r bobl ddrwg, fyddet ti?

24 Beth petai pum deg o bobl yno sy'n byw yn iawn. Fyddet ti'n dinistrio'r lle yn llwyr a gwrthod ei arbed er mwyn y pum deg yna?

25 Alla i ddim credu y byddet ti'n gwneud y fath beth – lladd pobl dduwiol hefo pobl ddrwg, a thrin y drwg a'r da yr un fath! Fyddet ti byth yn gwneud hynny! Onid ydy Barnwr y byd yn gwneud beth sy'n iawn?”

26 A dyma'r ARGLWYDD yn ateb, “Os bydda i'n dod o hyd i bum deg o bobl dduwiol yn y ddinas, bydda i'n arbed y ddinas er eu mwyn nhw.”

27 Felly dyma Abraham yn dweud, “Gan fy mod i wedi mentro agor fy ngheg, meistr, a dw i'n gwybod nad ydw i'n neb,

28 Beth petai yna bump yn llai na hanner cant? Fyddet ti'n dinistrio'r ddinas am fod pump yn eisiau?” A dyma fe'n ateb, “Wna i ddim dinistrio'r ddinas os bydd pedwar deg pump yno.”

29 A dyma Abraham yn dweud eto, “Beth am bedwar deg?” A dyma fe'n ateb, “Wna i ddim ei dinistrio os bydd pedwar deg yno.”

30 Ac meddai Abraham, “Plîs paid digio hefo fi, meistr. Beth os oes tri deg yno?” A dyma fe'n ateb, “Wna i ddim ei wneud os bydd tri deg yno.”

31 “Dw i'n mynd i fentro agor fy ngheg eto,” meddai Abraham, “Beth os oes dau ddeg yno?” A dyma fe'n ateb “Wna i ddim ei dinistrio os bydd dau ddeg yno.”

32 A dyma Abraham yn dweud eto, “Meistr, plîs paid â digio os gwna i siarad un waith eto, am y tro ola. Beth os oes deg yno?” A dyma fe'n ateb, “Wna i ddim ei dinistrio os bydd deg yno.”

33 Ar ôl iddo orffen siarad gydag Abraham dyma'r ARGLWYDD yn mynd i ffwrdd. Yna aeth Abraham adre.