Genesis 45 BNET

Joseff yn cyfadde wrth ei frodyr pwy ydy e

1 Doedd Joseff ddim yn gallu rheoli ei deimladau o flaen pawb oedd o'i gwmpas. “Pawb allan!” meddai wrth ei weision. Felly wnaeth neb aros gydag e pan ddwedodd wrth ei frodyr pwy oedd e.

2 Ond roedd yn crïo mor uchel nes bod pawb drwy'r tŷ yn ei glywed. A daeth palas y Pharo i glywed am y peth.

3 A dyma Joseff yn dweud wrth ei frodyr, “Joseff ydw i! Ydy dad yn dal yn fyw?” Ond allai ei frodyr ddweud dim. Roedden nhw'n sefyll yn fud o'i flaen.

4 A dyma Joseff yn gofyn, “Plîs dewch yn nes.” A dyma nhw'n mynd yn nes ato. “Joseff, eich brawd chi, ydw i,” meddai wrthyn nhw, “yr un wnaethoch chi ei werthu i'r Aifft.

5 Peidiwch ypsetio na beio'ch hunain am fy ngwerthu i. Duw anfonodd fi yma o'ch blaen chi i achub bywydau.

6 Dydy'r newyn yn y wlad yma ddim ond wedi para am ddwy flynedd hyd yn hyn. Mae pum mlynedd arall o newyn i ddod pan fydd y cnydau'n methu.

7 Mae Duw wedi fy anfon i yma o'ch blaen chi er mwyn i rai ohonoch chi gael byw, ac i chi gael eich achub mewn ffordd ryfeddol.

8 Nid chi wnaeth fy anfon i yma, ond Duw! Dw i'n gynghorydd i'r Pharo, yn rheoli ei balas, ac yn bennaeth ar wlad yr Aifft i gyd.

9 Brysiwch adre i ddweud wrth dad fod Joseff ei fab yn dweud, ‘Mae Duw wedi fy ngwneud i'n bennaeth ar wlad yr Aifft i gyd. Tyrd i lawr yma ata i ar unwaith.

10 Cei fyw yn ardal Gosen. Byddi di'n agos ata i. Tyrd a dy deulu i gyd, a dy anifeiliaid, a phopeth sydd gen ti.

11 Bydda i'n gwneud yn siŵr fod gynnoch chi ddigon o fwyd, ac na fyddwch chi'n brin o unrhyw beth. Achos mae'r newyn yn mynd i bara am bum mlynedd arall.’

12 Edrychwch. Gallwch chi a'm brawd Benjamin weld mai fi sy'n siarad â chi.

13 Rhaid i chi fynd i ddweud wrth dad am y statws sydd gen i yma yn yr Aifft, ac am bopeth dych chi wedi ei weld. Dewch â dad i lawr yma ar unwaith.”

14 Wedyn dyma fe'n taflu ei freichiau am Benjamin a'i gofleidio. Roedd y ddau ohonyn nhw yn crïo ym mreichiau ei gilydd.

15 Yna, yn dal i grïo, cusanodd ei frodyr eraill i gyd. A dyna pryd dechreuodd ei frodyr siarad gydag e.

16 Dyma'r newyddion yn cyrraedd palas y Pharo – “Mae brodyr Joseff wedi dod yma.” Roedd y Pharo a'i swyddogion yn hapus iawn.

17 A dyma'r Pharo yn dweud wrth Joseff, “Dywed wrth dy frodyr: ‘Llwythwch eich anifeiliaid a mynd yn ôl i Canaan.

18 Wedyn dewch â'ch tad a'ch teuluoedd i gyd ata i. Cewch y tir gorau yn yr Aifft gen i. Cewch fwyta'r bwyd gorau sy'n y wlad.’

19 A dywed hyn wrthyn nhw hefyd, ‘Cymerwch wagenni o'r Aifft i'ch plant a'ch gwragedd a'ch tad gael teithio yn ôl ynddyn nhw.

20 Peidiwch poeni am eich dodrefn. Cewch y gorau o bopeth sydd yma yn yr Aifft.’”

21 Felly dyna wnaeth meibion Jacob. Rhoddodd Joseff wagenni iddyn nhw fel roedd y Pharo wedi gorchymyn, a bwyd ar gyfer y daith.

22 Rhoddodd set o ddillad newydd i bob un ohonyn nhw. Ond cafodd Benjamin bump set o ddillad a 300 darn o arian.

23 Anfonodd y rhain i'w dad hefyd: deg asyn wedi eu llwytho gyda chynnyrch gorau yr Aifft, deg o asennod wedi eu llwytho gyda ŷd, bara, a bwyd ar gyfer taith ei dad yn ôl.

24 Wedyn dyma fe'n anfon ei frodyr i ffwrdd. Wrth iddyn nhw adael dyma fe'n dweud wrthyn nhw, “Peidiwch dechrau poeni am ddim byd ar eich ffordd.”

25 Felly dyma nhw'n gadael yr Aifft ac yn dod at eu tad yng ngwlad Canaan.

26 “Mae Joseff yn dal yn fyw!” medden nhw wrtho. “Fe sy'n rheoli gwlad yr Aifft i gyd.” Bu bron i galon Jacob stopio. Doedd e ddim yn credu ei glustiau.

27 Ond pan ddwedon nhw bopeth oedd Joseff wedi ei ddweud wrthyn nhw, a pan welodd y wagenni roedd Joseff wedi eu hanfon, dyma Jacob yn dechrau dod ato'i hun.

28 “Dyna ddigon!” meddai. “Mae Joseff yn fyw. Rhaid i mi fynd i'w weld cyn i mi farw.”