1 Dyma hanes teulu Esau (sef Edom):
2 Roedd Esau wedi priodi merched o Canaan: Ada (merch Elon yr Hethiad), Oholibama (merch Ana ac wyres Sibeon yr Hefiad),
3 a Basemath (merch Ishmael a chwaer Nebaioth).
4 Cafodd Ada fab i Esau, sef Eliffas.Cafodd Basemath fab, sef Reuel,
5 a cafodd Oholibama dri o fechgyn, sef Iewsh, Ialam a Cora.Dyma enwau'r meibion gafodd Esau pan oedd yng ngwlad Canaan.
6 Symudodd Esau i ffwrdd i wlad oedd yn reit bell oddi wrth ei frawd Jacob. Aeth â'i wragedd gydag e, a'i feibion a'i ferched, a phawb arall oedd gydag e, a'i anifeiliaid a'r holl eiddo oedd wedi ei gasglu pan oedd yn byw yng ngwlad Canaan.
7 Roedd gan y ddau ormod o anifeiliaid i allu byw gyda'i gilydd – doedd y tir ddim yn gallu cynnal y cwbl.
8 Felly dyma Esau (sef Edom) yn setlo ym mryniau Seir.
9 Dyma hanes teulu Esau (Ohono fe y daeth pobl Edom, sy'n byw ym mryniau Seir):
10 Enwau meibion Esau:Eliffas (mab Ada, gwraig Esau), Reuel (mab Basemath, gwraig Esau)
11 Enwau meibion Eliffas:Teman, Omar, Seffo, Gatam a Cenas.
12 Y rhain oedd disgynyddion Ada gwraig Esau. (Roedd gan Eliffas, mab Esau, bartner o'r enw Timna hefyd. Cafodd hi fab i Eliffas, sef Amalec.)
13 Enwau meibion Reuel:Nachath, Serach, Shamma a Missa. Y rhain oedd disgynyddion Basemath gwraig Esau.
14 A dyma enwau meibion Oholibama (merch Ana ac wyres Sibeon): cafodd dri o feibion i Esau, sef Iewsh, Ialam a Cora.
15 Roedd disgynyddion Esau yn arweinwyr llwythau gwahanol:Disgynyddion Eliffas (mab hynaf Esau) oedd arweinwyr llwythau Teman, Omar, Seffo, Cenas,
16 Cora, Gatam ac Amalec. Roedd arweinwyr y llwythau yma yn Edom i gyd yn ddisgynyddion i Eliffas ac Ada.
17 Disgynyddion Reuel (mab Esau) oedd arweinwyr llwythau Nachath, Serach, Shamma a Missa. Roedd arweinwyr y llwythau yma yn Edom i gyd yn ddisgynyddion i Eliffas a Basemath.
18 Wedyn dyma ddisgynyddion Oholibama (gwraig arall Esau): arweinwyr llwythau Iewsh, Ialam a Cora. Roedd arweinwyr y llwythau yma yn ddisgynyddion i Esau ac Oholibama (merch Ana).
19 Mae'r rhain i gyd yn ddisgynyddion i Esau – dyma arweinwyr llwythau Edom.
20 A dyma feibion Seir yr Horiad, oedd yn byw yn y wlad o'r blaen:Lotan, Shofal, Sibeon, Ana,
21 Dishon, Etser a Dishan. Y rhain oedd arweinwyr llwythau'r Horiaid, disgynyddion Seir sy'n byw yng ngwlad Edom.
22 Meibion Lotan oedd Chori a Homam (a Timna oedd chwaer Lotan).
23 Meibion Shofal oedd Alfan, Manachath, Ebal, Sheffo ac Onam.
24 Meibion Sibeon oedd Aia ac Ana (sef yr Ana ddarganfyddodd y ffynhonnau yn yr anialwch pan oedd yn gofalu am asynnod ei dad Sibeon).
25 Plant Ana oedd Dishon ac Oholibama (merch Ana).
26 Meibion Dishon oedd Chemdan, Eshban, Ithran a Ceran.
27 Meibion Etser oedd Bilhan, Saafan ac Acan.
28 Meibion Dishan oedd Us ac Aran.
29 Dyma arweinwyr llwythau'r Horiaid (Lotan, Shofal, Sibeon, Ana,
30 Dishon, Etser a Dishan.) Y rhain oedd arweinwyr llwythau'r Horiaid yng ngwlad Seir.
31 Dyma enwau brenhinoedd gwlad Edom yn y cyfnod cyn i Israel gael brenin:
32 Roedd Bela fab Beor o dre Dinhaba yn frenin ar Edom.
33 Ar ôl i Bela farw, daeth Iobab fab Serach o Bosra yn frenin yn ei le.
34 Ar ôl i Iobab farw, daeth Chwsham o ardal Teman yn frenin yn ei le.
35 Ar ôl i Chwsham farw, daeth Hadad fab Bedad o dre Afith yn frenin yn ei le. Hadad wnaeth orchfygu Midian mewn brwydr yn Moab.
36 Ar ôl i Hadad farw, daeth Samla o Masreca yn frenin yn ei le.
37 Ar ôl i Samla farw, daeth Saul o Rehoboth-ger-yr-Afon yn frenin yn ei le.
38 Ar ôl i Saul farw, daeth Baal-chanan fab Achbor yn frenin yn ei le.
39 Wedyn ar ôl i Baal-chanan fab Achbor farw daeth Hadar o dre Paw yn frenin yn ei le. Enw gwraig Hadar oedd Mehetafél (merch Matred ac wyres Me-sahab).
40 Dyma enwau arweinwyr llwythau Esau – pob llwyth yn byw mewn ardal arbennig o'r wlad:Timna, Alfa, Ietheth,
41 Oholibama, Ela, Pinon,
42 Cenas, Teman, Miftsar,
43 Magdiel ac Iram.Y rhain oedd arweinwyr llwythau Edom (sef Esau, tad pobl Edom) – pob un yn byw yn y rhan o'r wlad roedd wedi ei meddiannu.