15 Byddan nhw'n goleuo'r ddaear o'r awyr.” A dyna ddigwyddodd.
16 Gwnaeth Duw ddau olau mawr – yr haul a'r lleuad. Roedd yr un mwya disglair, sef yr haul, i reoli'r dydd, a'r golau lleiaf, sef y lleuad, i reoli'r nos. Gwnaeth Duw y sêr hefyd.
17 Gosododd nhw i gyd yn yr awyr i oleuo'r ddaear,
18 i reoli dydd a nos, ac i wahanu'r golau oddi wrth y tywyllwch. Roedd Duw yn gweld bod hyn yn dda,
19 ac roedd nos a dydd ar y pedwerydd diwrnod.
20 Dwedodd Duw, “Dw i eisiau'r dyfroedd yn orlawn o bysgod a chreaduriaid byw eraill, a dw i eisiau i adar hedfan yn ôl ac ymlaen yn yr awyr uwchben y ddaear.”
21 Felly dyma Duw yn creu y creaduriaid enfawr sydd yn y môr, a'r holl bethau byw eraill sydd ynddo, a'r holl wahanol fathau o adar hefyd. Roedd Duw yn gweld bod hyn yn dda.