4 Roedd Duw yn gweld bod hyn yn dda, a dyma Duw yn gwahanu'r golau oddi wrth y tywyllwch.
5 Rhoddodd Duw yr enw "dydd" i'r golau a'r enw "nos" i'r tywyllwch, ac roedd nos a dydd ar y diwrnod cyntaf.
6 Wedyn dwedodd Duw, “Dw i eisiau cromen o aer rhwng y dyfroedd, i wahanu'r dŵr yn ddau.”
7 A dyna ddigwyddodd. Gwnaeth Duw gromen o aer, ac roedd yn gwahanu'r dŵr oddi tani oddi wrth y dŵr uwch ei phen.
8 Rhoddodd Duw yr enw "awyr" iddi, ac roedd nos a dydd ar yr ail ddiwrnod.
9 Dwedodd Duw, “Dw i eisiau i'r dŵr sydd dan yr awyr gasglu i un lle, er mwyn i ddaear sych ddod i'r golwg.” A dyna ddigwyddodd.
10 Rhoddodd Duw yr enw "tir" i'r ddaear, a "moroedd" i'r dŵr. Roedd Duw yn gweld bod hyn yn dda.