29 Offir, Hafila, a Iobab. Roedd y rhain i gyd yn ddisgynyddion i Ioctan.
30 Roedden nhw'n byw ar y tir rhwng Mesha a bryniau Seffar yn y dwyrain.
31 Felly dyna ddisgynyddion Shem, yn ôl eu llwythau, ieithoedd, tiroedd a chenhedloedd.
32 Dyna'r llwythau ddaeth o feibion Noa, wedi eu rhestru yn eu cenhedloedd yn ôl eu hachau. Ar ôl y dilyw dyma nhw'n rhannu i wneud gwahanol genhedloedd yn y byd.