4 Disgynyddion Iafan oedd pobl Elisha, Tarshish, Cittim, a Dodanîm,
5 sef pobloedd yr arfordir a'r ynysoedd. Rhannodd y rhain yn genhedloedd gwahanol gyda'u tiroedd, a phob grŵp ethnig gyda'i iaith ei hun.
6 Meibion Cham: Cwsh, Mitsraïm, Pwt, a Canaan.
7 Disgynyddion Cwsh oedd pobl Seba, Hafila, Sabta, Raama, a Sabtecha. Disgynyddion Raama oedd pobl Sheba a Dedan.
8 Cafodd Cwsh fab arall o'r enw Nimrod. Nimrod oedd y concwerwr cyntaf.
9 Fe oedd yr heliwr gorau yn y byd i gyd. Dyna pam mae'r hen ddywediad yn dweud, “Mae fel Nimrod, yr heliwr gorau welodd yr ARGLWYDD.”
10 Dechreuodd ei ymerodraeth gyda dinasoedd Babel, Erech, Accad a Calne yng ngwlad Babilonia.