7 Disgynyddion Cwsh oedd pobl Seba, Hafila, Sabta, Raama, a Sabtecha. Disgynyddion Raama oedd pobl Sheba a Dedan.
8 Cafodd Cwsh fab arall o'r enw Nimrod. Nimrod oedd y concwerwr cyntaf.
9 Fe oedd yr heliwr gorau yn y byd i gyd. Dyna pam mae'r hen ddywediad yn dweud, “Mae fel Nimrod, yr heliwr gorau welodd yr ARGLWYDD.”
10 Dechreuodd ei ymerodraeth gyda dinasoedd Babel, Erech, Accad a Calne yng ngwlad Babilonia.
11 Wedyn lledodd ei ymerodraeth i Asyria, ac adeiladodd ddinasoedd Ninefe, Rehoboth-ir, Cala,
12 a Resen (sydd rhwng Ninefe a dinas fawr Cala.)
13 Disgynyddion Mitsraïm oedd y Lydiaid, Anamiaid, Lehabiaid (pobl Libia), Nafftwiaid,