10 Dyma hanes teulu Shem:Pan oedd Shem yn gant oed, cafodd ei fab Arffacsad ei eni (Roedd hyn ddwy flynedd ar ôl y dilyw.)
11 Buodd Shem fyw am 500 mlynedd ar ôl i Arffacsad gael ei eni, a chafodd blant eraill.
12 Pan oedd Arffacsad yn 35 oed, cafodd ei fab Shelach ei eni.
13 Buodd Arffacsad fyw am 403 o flynyddoedd ar ôl i Shelach gael ei eni, a chafodd blant eraill.
14 Pan oedd Shelach yn 30 oed, cafodd ei fab Eber ei eni.
15 Buodd Shelach fyw am 403 o flynyddoedd ar ôl i Eber gael ei eni, a chafodd blant eraill.
16 Pan oedd Eber yn 34 oed, cafodd ei fab Peleg ei eni.