11 Buodd Shem fyw am 500 mlynedd ar ôl i Arffacsad gael ei eni, a chafodd blant eraill.
12 Pan oedd Arffacsad yn 35 oed, cafodd ei fab Shelach ei eni.
13 Buodd Arffacsad fyw am 403 o flynyddoedd ar ôl i Shelach gael ei eni, a chafodd blant eraill.
14 Pan oedd Shelach yn 30 oed, cafodd ei fab Eber ei eni.
15 Buodd Shelach fyw am 403 o flynyddoedd ar ôl i Eber gael ei eni, a chafodd blant eraill.
16 Pan oedd Eber yn 34 oed, cafodd ei fab Peleg ei eni.
17 Buodd Eber fyw am 430 mlynedd ar ôl i Peleg gael ei eni, a chafodd blant eraill.