13 Buodd Arffacsad fyw am 403 o flynyddoedd ar ôl i Shelach gael ei eni, a chafodd blant eraill.
14 Pan oedd Shelach yn 30 oed, cafodd ei fab Eber ei eni.
15 Buodd Shelach fyw am 403 o flynyddoedd ar ôl i Eber gael ei eni, a chafodd blant eraill.
16 Pan oedd Eber yn 34 oed, cafodd ei fab Peleg ei eni.
17 Buodd Eber fyw am 430 mlynedd ar ôl i Peleg gael ei eni, a chafodd blant eraill.
18 Pan oedd Peleg yn 30 oed, cafodd ei fab Reu ei eni.
19 Buodd Peleg fyw am 209 o flynyddoedd ar ôl i Reu gael ei eni, a chafodd blant eraill.