19 Buodd Peleg fyw am 209 o flynyddoedd ar ôl i Reu gael ei eni, a chafodd blant eraill.
20 Pan oedd Reu yn 32 oed, cafodd ei fab Serwg ei eni.
21 Buodd Reu fyw am 207 o flynyddoedd ar ôl i Serwg gael ei eni, a chafodd blant eraill.
22 Pan oedd Serwg yn 30 oed, cafodd ei fab Nachor ei eni.
23 Buodd Serwg fyw am 200 mlynedd ar ôl i Nachor gael ei eni, a chafodd blant eraill.
24 Pan oedd Nachor yn 29 oed, cafodd ei fab Tera ei eni.
25 Buodd Nachor fyw am 119 mlynedd ar ôl i Tera gael ei eni, a chafodd blant eraill.