26 Pan oedd Tera yn 70 oed, roedd ganddo dri mab – Abram, Nachor a Haran.
27 Dyma hanes teulu Tera:Tera oedd tad Abram, Nachor a Haran. Haran oedd tad Lot.
28 Pan fuodd Haran farw, yn Ur yn Babilonia lle cafodd ei eni, roedd ei dad Tera yn dal yn fyw.
29 Priododd y ddau frawd arall. Sarai oedd enw gwraig Abram, a Milca oedd enw gwraig Nachor (Roedd hi'n un o ferched Haran, ac enw ei chwaer oedd Isca.)
30 Roedd Sarai yn methu cael plant.
31 Dyma Tera yn gadael Ur yn Babilonia gyda'r bwriad o symud i wlad Canaan. Aeth ag Abram ei fab gydag e, hefyd Sarai ei ferch-yng-nghyfraith a Lot ei ŵyr (sef mab Haran). Ond dyma nhw'n cyrraedd Haran ac yn setlo yno.
32 Dyna lle buodd Tera farw, yn 205 oed.