8 Felly dyma'r ARGLWYDD yn eu gwasgaru nhw drwy'r byd i gyd, a dyma nhw'n stopio adeiladu'r ddinas.
9 Roedd y ddinas yn cael ei galw yn Babel am mai dyna ble wnaeth yr ARGLWYDD gymysgu ieithoedd pobl, a'u gwasgaru drwy'r byd i gyd.
10 Dyma hanes teulu Shem:Pan oedd Shem yn gant oed, cafodd ei fab Arffacsad ei eni (Roedd hyn ddwy flynedd ar ôl y dilyw.)
11 Buodd Shem fyw am 500 mlynedd ar ôl i Arffacsad gael ei eni, a chafodd blant eraill.
12 Pan oedd Arffacsad yn 35 oed, cafodd ei fab Shelach ei eni.
13 Buodd Arffacsad fyw am 403 o flynyddoedd ar ôl i Shelach gael ei eni, a chafodd blant eraill.
14 Pan oedd Shelach yn 30 oed, cafodd ei fab Eber ei eni.