11 Pan oedd bron cyrraedd yr Aifft, dwedodd wrth ei wraig Sarai, “Ti'n ddynes hardd iawn.
12 Pan fydd yr Eifftiaid yn dy weld di byddan nhw'n dweud, ‘Ei wraig e ydy hi’, a byddan nhw yn fy lladd i er mwyn dy gael di.
13 Dywed wrthyn nhw mai fy chwaer i wyt ti. Byddan nhw'n garedig ata i wedyn am eu bod nhw'n dy hoffi di, a bydda i'n saff.”
14 Pan gyrhaeddodd Abram yr Aifft, roedd yr Eifftiaid yn gweld fod Sarai yn ddynes hardd iawn.
15 Gwelodd swyddogion y Pharo hi, a mynd i ddweud wrtho mor hardd oedd hi. Felly cymerodd y Pharo hi i fod yn un o'i harîm.
16 Roedd y Pharo'n garedig iawn at Abram o'i hachos hi. Rhoddodd ddefaid a gwartheg, asennod, caethweision a morynion, a chamelod iddo.
17 Ond am fod y Pharo wedi cymryd Sarai, gwraig Abram, iddo'i hun, dyma'r ARGLWYDD yn anfon afiechydon ofnadwy arno fe a phawb yn ei balas.