15 Gwelodd swyddogion y Pharo hi, a mynd i ddweud wrtho mor hardd oedd hi. Felly cymerodd y Pharo hi i fod yn un o'i harîm.
16 Roedd y Pharo'n garedig iawn at Abram o'i hachos hi. Rhoddodd ddefaid a gwartheg, asennod, caethweision a morynion, a chamelod iddo.
17 Ond am fod y Pharo wedi cymryd Sarai, gwraig Abram, iddo'i hun, dyma'r ARGLWYDD yn anfon afiechydon ofnadwy arno fe a phawb yn ei balas.
18 Galwodd y Pharo am Abram, a dweud wrtho, “Pam rwyt ti wedi gwneud hyn i mi? Pam wnest ti ddim dweud mai dy wraig di oedd hi?
19 Pam dweud ‘Fy chwaer i ydy hi’, a gadael i mi ei chymryd hi'n wraig i mi fy hun? Dyma hi, dy wraig, yn ôl i ti. Cymer hi a dos o ngolwg i!”
20 Rhoddodd y Pharo orchymyn i'w filwyr daflu Abram, a'i wraig a phopeth oedd ganddo, allan o'r wlad.