15 Yn ystod y nos dyma Abram yn rhannu ei fyddin ac ymosod ar y gelyn. Aeth ar eu holau mor bell â Choba, sydd i'r gogledd o Damascus.
16 Cafodd bopeth roedden nhw wedi ei ddwyn yn ôl. Daeth â'i nai Lot a'i eiddo yn ôl hefyd, a'r gwragedd a gweddill y bobl oedd wedi cael eu dal.
17 Ar ôl ennill y frwydr yn erbyn Cedorlaomer a'r brenhinoedd eraill, aeth Abram adre. Aeth brenin Sodom i'w groesawu yn Nyffryn Shafe (sef Dyffryn y Brenin).
18 A dyma Melchisedec, brenin Salem, yn mynd â bwyd a gwin iddo. Roedd Melchisedec yn offeiriad i'r Duw Goruchaf,
19 a dyma fe'n bendithio Abram fel hyn:“Boed i'r Duw Goruchaf,sydd wedi creu y nefoedd a'r ddaear,dy fendithio Abram.
20 A boed i'r Duw Goruchaf gael ei foli,am ei fod wedi gwneud i ti goncro dy elynion!”Yna dyma Abram yn rhoi iddo un rhan o ddeg o'r cwbl oedd ganddo.
21 Wedyn dyma frenin Sodom yn dweud wrth Abram, “Rho'r bobl yn ôl i mi, ond cadw bopeth arall i ti dy hun.”