18 A dyma Melchisedec, brenin Salem, yn mynd â bwyd a gwin iddo. Roedd Melchisedec yn offeiriad i'r Duw Goruchaf,
19 a dyma fe'n bendithio Abram fel hyn:“Boed i'r Duw Goruchaf,sydd wedi creu y nefoedd a'r ddaear,dy fendithio Abram.
20 A boed i'r Duw Goruchaf gael ei foli,am ei fod wedi gwneud i ti goncro dy elynion!”Yna dyma Abram yn rhoi iddo un rhan o ddeg o'r cwbl oedd ganddo.
21 Wedyn dyma frenin Sodom yn dweud wrth Abram, “Rho'r bobl yn ôl i mi, ond cadw bopeth arall i ti dy hun.”
22 Ond atebodd Abram, “Na, dw i wedi cymryd llw, ac addo i'r ARGLWYDD, y Duw Goruchaf sydd wedi creu y nefoedd a'r ddaear,
23 na fydda i'n cymryd dim byd gen ti – y mymryn lleiaf hyd yn oed. Dw i ddim am i ti ddweud, ‘Fi sydd wedi gwneud Abram yn gyfoethog.’
24 Does gen i eisiau dim byd ond beth mae'r milwyr ifanc yma wedi ei fwyta. Ond mae'n iawn i Aner, Eshcol a Mamre, aeth i ymladd gyda mi, gael eu siâr nhw.”