2 yn rhyfela yn erbyn Bera brenin Sodom, Birsha brenin Gomorra, Shinab brenin Adma, Shemeber brenin Seboïm, a brenin Bela (sef Soar).
3 Roedd brenhinoedd Sodom, Gomorra, Adma, Seboïm a Bela wedi ffurfio cynghrair, a dod at ei gilydd yn nyffryn Sidim (sef y Môr Marw).
4 Roedden nhw wedi bod dan reolaeth Cedorlaomer am ddeuddeg mlynedd, ond y flwyddyn wedyn dyma nhw'n gwrthryfela yn ei erbyn.
5 Flwyddyn ar ôl hynny daeth Cedorlaomer a'r brenhinoedd oedd ar ei ochr e, a concro y Reffaiaid yn Ashteroth-carnaïm, y Swsiaid yn Ham, yr Emiaid yn Safe-Ciriathaim,
6 yr Horiaid ym mryniau Seir yr holl ffordd i El-paran sydd wrth ymyl yr anialwch.
7 Wedyn dyma nhw yn troi yn ôl ac yn ymosod ar En-mishpat (sef Cadesh), a gorchfygu gwlad yr Amaleciaid i gyd, a hefyd yr Amoriaid oedd yn byw yn Chatsason-tamar.
8 Felly dyma frenhinoedd Sodom, Gomorra, Adma, Seboïm a Bela (sef Soar) yn mynd i ddyffryn Sidim, i ymladd