6 yr Horiaid ym mryniau Seir yr holl ffordd i El-paran sydd wrth ymyl yr anialwch.
7 Wedyn dyma nhw yn troi yn ôl ac yn ymosod ar En-mishpat (sef Cadesh), a gorchfygu gwlad yr Amaleciaid i gyd, a hefyd yr Amoriaid oedd yn byw yn Chatsason-tamar.
8 Felly dyma frenhinoedd Sodom, Gomorra, Adma, Seboïm a Bela (sef Soar) yn mynd i ddyffryn Sidim, i ymladd
9 yn erbyn Cedorlaomer brenin Elam, a brenhinoedd Goïm, Babilonia ac Elasar – pedwar brenin yn erbyn pump.
10 Roedd Dyffryn Sidim yn llawn o byllau tar. Wrth i fyddinoedd Sodom a Gomorra ddianc oddi wrth y gelyn, dyma rai ohonyn nhw yn llithro i mewn i'r pyllau. Llwyddodd y gweddill i ddianc i'r bryniau.
11 Dyma'r byddinoedd oedd yn fuddugol yn cymryd eiddo Sodom a Gomorra, a'r bwyd oedd yno, cyn mynd i ffwrdd.
12 A dyma nhw'n cymryd Lot, nai Abram, a'i eiddo fe i gyd hefyd, gan fod Lot yn byw yn Sodom.