8 Felly dyma frenhinoedd Sodom, Gomorra, Adma, Seboïm a Bela (sef Soar) yn mynd i ddyffryn Sidim, i ymladd
9 yn erbyn Cedorlaomer brenin Elam, a brenhinoedd Goïm, Babilonia ac Elasar – pedwar brenin yn erbyn pump.
10 Roedd Dyffryn Sidim yn llawn o byllau tar. Wrth i fyddinoedd Sodom a Gomorra ddianc oddi wrth y gelyn, dyma rai ohonyn nhw yn llithro i mewn i'r pyllau. Llwyddodd y gweddill i ddianc i'r bryniau.
11 Dyma'r byddinoedd oedd yn fuddugol yn cymryd eiddo Sodom a Gomorra, a'r bwyd oedd yno, cyn mynd i ffwrdd.
12 A dyma nhw'n cymryd Lot, nai Abram, a'i eiddo fe i gyd hefyd, gan fod Lot yn byw yn Sodom.
13 Ond dyma un oedd wedi llwyddo i ddianc yn mynd i ddweud wrth Abram yr Hebread beth oedd wedi digwydd. Roedd Abram yn byw wrth goed derw Mamre yr Amoriad, ac roedd Mamre a'i frodyr, Eshcol ac Aner, wedi ffurfio cynghrair gydag Abram.
14 Felly pan glywodd Abram fod ei nai wedi cael ei gymryd yn gaeth, casglodd ei filwyr, 318 o ddynion oedd wedi eu geni gyda'r clan. Aeth ar ôl y gelyn mor bell â Dan yn y gogledd.