17 Pan oedd yr haul wedi machlud a hithau'n dywyll, dyma grochan tân oedd yn mygu a ffagl oedd yn llosgi yn pasio rhwng darnau'r anifeiliaid.
18 Y diwrnod hwnnw dyma'r ARGLWYDD yn gwneud ymrwymiad gydag Abram: “Dw i'n mynd i roi'r wlad yma i dy ddisgynyddion di – y tir i gyd o Wadi'r Aifft i afon fawr Ewffrates.
19 Tir y Ceneaid, Cenesiaid, Cadmoniaid,
20 Hethiaid, Peresiaid, Reffaiaid,
21 Amoriaid, Canaaneaid, Girgasiaid, a'r Jebwsiaid.”