1 Doedd Sarai, gwraig Abram, ddim yn gallu cael plant. Ond roedd ganddi forwyn o'r enw Hagar, o wlad yr Aifft.
2 A dyma Sarai yn dweud wrth Abram, “Dydy'r ARGLWYDD ddim wedi gadael i mi gael plant, felly dw i am i ti gysgu gyda fy morwyn i. Falle y caf i blant trwyddi hi.” A dyma Abram yn gwneud beth ddwedodd Sarai wrtho.
3 Felly dyma Sarai, gwraig Abram, yn rhoi Hagar, ei morwyn Eifftaidd, yn wraig i Abram. Roedd hyn ddeg mlynedd ar ôl i Abram symud i fyw i Canaan.
4 Ar ôl i Abram gysgu gyda Hagar roedd hi'n disgwyl babi. Pan sylweddolodd hi ei bod hi'n feichiog dechreuodd Hagar edrych i lawr ar ei meistres.
5 A dyma Sarai'n dweud wrth Abram, “Arnat ti mae'r bai fy mod i'n cael fy ngham-drin fel yma! Gwnes i adael i ti gysgu gyda hi, ond pan welodd hi ei bod hi'n disgwyl babi dyma hi'n dechrau edrych i lawr arna i. Bydd yr ARGLWYDD yn dangos pwy sydd ar fai!”
6 Ond atebodd Abram, “Dy forwyn di ydy hi. Gwna di beth wyt ti eisiau gyda hi.” Felly dyma Sarai yn dechrau ei cham-drin hi, a dyma Hagar yn rhedeg i ffwrdd.
7 Daeth angel yr ARGLWYDD o hyd iddi wrth ymyl ffynnon yn yr anialwch, sef y ffynnon sydd ar y ffordd i Shwr.