1 Pan oedd Abram yn 99 mlwydd oed, dyma'r ARGLWYDD yn ymddangos iddo, ac yn dweud, “Fi ydy'r Duw sy'n rheoli popeth. Dw i am i ti fyw mewn perthynas â mi, a gwneud beth dw i eisiau.
2 Bydda i'n gwneud ymrwymiad rhyngon ni'n dau, ac yn rhoi llawer iawn o ddisgynyddion i ti.”
3 Dyma Abram yn mynd ar ei wyneb ar lawr. Ac meddai Duw wrtho,
4 “Dyma'r ymrwymiad dw i'n ei wneud i ti: byddi'n dad i lawer iawn o bobloedd gwahanol.
5 A dw i am newid dy enw di o Abram i Abraham, am fy mod i wedi dy wneud di yn dad llawer o bobloedd gwahanol.
6 Bydd gen ti filiynau o ddisgynyddion. Bydd cenhedloedd cyfan yn dod ohonot ti, a bydd rhai o dy ddisgynyddion di yn frenhinoedd.
7 Bydda i'n cadarnhau fy ymrwymiad i ti, ac i dy ddisgynyddion ar dy ôl di. Bydd yr ymrwymiad yn para am byth, ar hyd y cenedlaethau. Dw i'n addo bod yn Dduw i ti ac i dy ddisgynyddion di.