19 “Na,” meddai Duw “mae dy wraig Sara yn mynd i gael mab i ti. Rwyt i'w alw yn Isaac. Bydda i'n cadarnhau iddo fe yr ymrwymiad dw i wedi ei wneud – ei fod yn ymrwymiad fydd yn para am byth, ac i'w ddisgynyddion ar ei ôl.
20 Ond dw i wedi clywed beth rwyt ti'n ei ofyn am Ishmael hefyd. Bydda i'n ei fendithio fe, ac yn rhoi lot fawr o ddisgynyddion iddo. Bydd yn dad i un deg dau o benaethiaid llwythau, a bydda i'n ei wneud yn genedl fawr.
21 Ond bydda i'n cadarnhau yr ymrwymiad dw i wedi ei wneud gydag Isaac. Bydd yn cael ei eni i Sara yr adeg yma'r flwyddyn nesa.”
22 Ar ôl dweud hyn i gyd, dyma Duw yn gadael Abraham.
23 Felly'r diwrnod hwnnw dyma Abraham yn enwaedu ei fab Ishmael, a'i weision i gyd (y rhai oedd gydag e ers iddyn nhw gael eu geni a'r rhai roedd wedi eu prynu) – pob un gwryw, yn union fel roedd Duw wedi dweud wrtho.
24 Roedd Abraham yn 99 mlwydd oed pan gafodd ei enwaedu.
25 Roedd Ishmael yn 13 pan gafodd e ei enwaedu.