3 Dyma Abram yn mynd ar ei wyneb ar lawr. Ac meddai Duw wrtho,
4 “Dyma'r ymrwymiad dw i'n ei wneud i ti: byddi'n dad i lawer iawn o bobloedd gwahanol.
5 A dw i am newid dy enw di o Abram i Abraham, am fy mod i wedi dy wneud di yn dad llawer o bobloedd gwahanol.
6 Bydd gen ti filiynau o ddisgynyddion. Bydd cenhedloedd cyfan yn dod ohonot ti, a bydd rhai o dy ddisgynyddion di yn frenhinoedd.
7 Bydda i'n cadarnhau fy ymrwymiad i ti, ac i dy ddisgynyddion ar dy ôl di. Bydd yr ymrwymiad yn para am byth, ar hyd y cenedlaethau. Dw i'n addo bod yn Dduw i ti ac i dy ddisgynyddion di.
8 A dw i'n mynd i roi'r wlad lle rwyt ti'n crwydro, gwlad Canaan, i ti a dy ddisgynyddion am byth. Fi fydd eu Duw nhw.”
9 Yna dyma Duw yn dweud wrth Abraham, “Rhaid i ti gadw gofynion yr ymrwymiad – ti, a dy ddisgynyddion ar dy ôl di, ar hyd y cenedlaethau.