8 A dw i'n mynd i roi'r wlad lle rwyt ti'n crwydro, gwlad Canaan, i ti a dy ddisgynyddion am byth. Fi fydd eu Duw nhw.”
9 Yna dyma Duw yn dweud wrth Abraham, “Rhaid i ti gadw gofynion yr ymrwymiad – ti, a dy ddisgynyddion ar dy ôl di, ar hyd y cenedlaethau.
10 Dyma mae'n rhaid i ti a dy ddisgynyddion ei wneud: Rhaid i bob gwryw fynd trwy ddefod enwaediad.
11 Byddwch yn torri'r blaengroen fel arwydd o'r ymrwymiad rhyngon ni.
12 I lawr y cenedlaethau rhaid i bob bachgen gael ei enwaedu pan mae'n union wythnos oed. Mae hyn i gynnwys y bechgyn sy'n perthyn i'r teulu, a'ch caethweision a'u plant.
13 Bydd rhaid i'r caethweision gafodd eu prynu gynnoch chi, a'i plant nhw fynd drwy ddefod enwaediad. Bydd arwydd yr ymrwymiad rhyngon ni i'w weld ar y corff am byth.
14 Bydd unrhyw wryw sydd heb fynd drwy ddefod enwaediad yn cael ei dorri allan o'r gymuned, am ei fod heb gadw gofynion yr ymrwymiad.”