1 Dyma'r ddau angel yn cyrraedd Sodom pan oedd hi'n dechrau nosi. Roedd Lot yn eistedd wrth giât y ddinas. Pan welodd Lot nhw, cododd i'w cyfarch, ac ymgrymu â'i wyneb ar lawr o'u blaenau nhw.
2 “Fy meistri,” meddai wrthyn nhw, “plîs dewch draw i'm tŷ i. Cewch aros dros nos a golchi eich traed. Wedyn bore fory cewch godi'n gynnar a mynd ymlaen ar eich taith.” Ond dyma nhw'n ei ateb, “Na. Dŷn ni am aros allan ar y sgwâr drwy'r nos.”
3 Ond dyma Lot yn dal ati i bwyso arnyn nhw, ac yn y diwedd aethon nhw gydag e i'w dŷ. Gwnaeth wledd iddyn nhw, gyda bara ffres oedd wedi ei wneud heb furum, a dyma nhw'n bwyta.
4 Cyn iddyn nhw setlo i lawr i gysgu, dyma ddynion Sodom i gyd yn cyrraedd yno ac amgylchynu'r tŷ – dynion hen ac ifanc o bob rhan o'r ddinas.
5 A dyma nhw'n galw ar Lot, “Ble mae'r dynion sydd wedi dod atat ti heno? Tyrd â nhw allan yma i ni gael rhyw gyda nhw.”