12 Gofynnodd y dynion i Lot, “Oes gen ti berthnasau eraill yma? – meibion neu ferched, meibion yng nghyfraith neu unrhyw un arall? Dos i'w nôl nhw a gadael y lle yma,
13 achos dŷn ni'n mynd i ddinistrio'r ddinas. Mae pobl wedi bod yn cwyno'n ofnadwy am y lle, ac mae'r ARGLWYDD wedi ein hanfon ni i'w ddinistrio.”
14 Felly dyma Lot yn mynd i siarad â'r dynion oedd i fod i briodi ei ferched. “Codwch!” meddai, “Rhaid i ni adael y lle yma. Mae'r ARGLWYDD yn mynd i ddinistrio'r ddinas.” Ond roedden nhw yn meddwl mai cael sbort oedd e.
15 Ben bore wedyn gyda'r wawr dyma'r angylion yn dweud wrth Lot am frysio, “Tyrd yn dy flaen. Dos â dy wraig a'r ddwy ferch sydd gen ti, neu byddwch chithau'n cael eich lladd pan fydd y ddinas yn cael ei dinistrio!”
16 Ond roedd yn llusgo'i draed, felly dyma'r dynion yn gafael yn Lot a'i wraig a'i ferched, a mynd â nhw allan o'r ddinas. Roedd yr ARGLWYDD mor drugarog ato.
17 Ar ôl mynd â nhw allan dyma un o'r angylion yn dweud wrthyn nhw, “Rhedwch am eich bywydau. Peidiwch edrych yn ôl, a peidiwch stopio nes byddwch chi allan o'r dyffryn yma. Rhedwch i'r bryniau, neu byddwch chi'n cael eich lladd.”
18 Ond dyma Lot yn ateb, “O na, plîs, syr.