17 Ar ôl mynd â nhw allan dyma un o'r angylion yn dweud wrthyn nhw, “Rhedwch am eich bywydau. Peidiwch edrych yn ôl, a peidiwch stopio nes byddwch chi allan o'r dyffryn yma. Rhedwch i'r bryniau, neu byddwch chi'n cael eich lladd.”
18 Ond dyma Lot yn ateb, “O na, plîs, syr.
19 Rwyt ti wedi bod mor garedig, ac wedi achub fy mywyd i. Ond mae'r bryniau acw'n rhy bell. Alla i byth gyrraedd mewn pryd. Bydd y dinistr yn fy nal i a bydda i'n marw cyn cyrraedd.
20 Edrych, mae'r dre fach acw'n ddigon agos. Gad i mi ddianc yno. Mae'n lle bach, a bydda i'n cael byw.”
21 “Iawn,” meddai'r angel, “wna i ddim dinistrio'r dref yna.
22 Brysia felly. Dianc yno. Alla i wneud dim byd nes byddi di wedi cyrraedd yno.” A dyna pam mae'r lle yn cael ei alw yn Soar.
23 Erbyn i Lot gyrraedd Soar roedd hi wedi dyddio.