18 Ond dyma Lot yn ateb, “O na, plîs, syr.
19 Rwyt ti wedi bod mor garedig, ac wedi achub fy mywyd i. Ond mae'r bryniau acw'n rhy bell. Alla i byth gyrraedd mewn pryd. Bydd y dinistr yn fy nal i a bydda i'n marw cyn cyrraedd.
20 Edrych, mae'r dre fach acw'n ddigon agos. Gad i mi ddianc yno. Mae'n lle bach, a bydda i'n cael byw.”
21 “Iawn,” meddai'r angel, “wna i ddim dinistrio'r dref yna.
22 Brysia felly. Dianc yno. Alla i wneud dim byd nes byddi di wedi cyrraedd yno.” A dyna pam mae'r lle yn cael ei alw yn Soar.
23 Erbyn i Lot gyrraedd Soar roedd hi wedi dyddio.
24 A dyma'r ARGLWYDD yn gwneud i dân a brwmstan syrthio o'r awyr ar Sodom a Gomorra.